Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Iau, 5 Gorffennaf 2018
Amser:
09.05 -
11.27
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4842
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Simon Thomas AC (Cadeirydd) Neil Hamilton AC Mike Hedges AC Jane Hutt AC David Rees AC Mark Reckless AC |
Tystion: |
Alison Gerrard, Swyddfa Archwilio Cymru Matthew Hockridge, Swyddfa Archwilio Cymru Steve O'Donoghue, Swyddfa Archwilio Cymru Martin Peters, Swyddfa Archwilio Cymru Huw Vaughan Thomas CBE, Archwilydd Cyffredinol Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru, Archwilydd Cyffredinol Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Bethan Davies (Clerc) Georgina Owen (Dirprwy Glerc) Martin Jennings (Ymchwilydd) Owen Holzinger (Ymchwilydd) Ben Harris (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad ar ôl gwneud rhai mân newidiadau.
1.2 Roedd Mark Reckless AC yn absennol ar gyfer yr eitem hon.
2.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Steffan Lewis AC a Nick Ramsay AC.
2.2 Croesawodd y Cadeirydd Mark Reckless AC a oedd yn dirprwyo dros Nick Ramsay AC.
3.1 Nodwyd y papur.
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru; Alison Gerrard, Aelod o’r Bwrdd, Swyddfa Archwilio Cymru; Steve O’Donoghue, Cyfarwyddwr Cyllid, Swyddfa Archwilio Cymru a Matthew Hockridge, Pennaeth Cynllunio ac Adrodd, Swyddfa Archwilio Cymru am Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol Swyddfa Archwilio Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru 2017-18 a Chynllun Blynyddol 2018-19.
5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru; Alison Gerrard, Aelod o’r Bwrdd, Swyddfa Archwilio Cymru; Steve O’Donoghue, Cyfarwyddwr Cyllid, Swyddfa Archwilio Cymru; a Martin Peters, Pennaeth Cyfraith a Moeseg, Swyddfa Archwilio Cymru am ystyried cynigion i ddiwygio Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013.
6.1 Derbyniwyd y cynnig.
7.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
8.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
9.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y Memorandwm Swyddog Cyfrifyddu a nododd y telerau a’r amodau a’r trefniadau cydnabyddiaeth ar gyfer Archwilydd Cyffredinol Cymru nesaf.
10.1 Cytunodd y Pwyllgor ar ei ddull ar gyfer craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20.
10.2 Cytunodd y Pwyllgor i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus, a hynny yn ystod toriad yr haf, ar y cynigion ar gyfer y gyllideb ddrafft er mwyn llywio gwaith craffu’r Pwyllgor.
11.1 Nododd y Pwyllgor y papur ac ystyriodd y camau nesaf.
12.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad.
12.2 Roedd Mark Reckless AC yn absennol ar gyfer yr eitem hon.